Maniffesto Mozilla
Mae Maniffesto Mozilla, a ysgrifennwyd yn 2007, yn amlinellu ein hegwyddorion craidd. Ysgrifennwyd The Pledge for a Healthy Internet fel atodiad i'r Maniffesto yn 2017 i adlewyrchu ein hymrwymiad dwfn i sicrhau bod y rhyngrwyd yn gwasanaethu anghenion bodau dynol a'r ddynoliaeth gyfan. Gyda'i gilydd, mae'r ddwy ddogfen hyn yn arwain yr holl waith ar draws Mozilla — yr hyn yr ydym yn ei adeiladu, yr hyn yr ydym yn ei ariannu a sut yr ydym yn gweithio gyda'n gilydd fel cymuned.
Cyflwyniad
Mae'r Rhyngrwyd yn dod yn rhan gynyddol bwysig o'n bywydau.
Mae'r Project Mozilla yn gymuned fyd-eang o bobl sy'n credu bod bod yn agored, arloesol a chynnig cyfleoedd yn allweddol i iechyd parhaus y rhyngrwyd. Rydym wedi gweithio gyda’n gilydd ers 1998 i sicrhau bod y rhyngrwyd yn cael ei datblygu mewn ffordd sydd o fudd i bawb. Rydym yn fwyaf adnabyddus am greu porwr gwe Mozilla Firefox.
Mae'r Project Mozilla yn defnyddio dull cymunedol i greu meddalwedd cod agored o'r radd flaenaf ac i ddatblygu mathau newydd o weithgareddau cydweithredol. Rydym yn creu cymunedau o bobl sy'n ymwneud â gwneud y profiad rhyngrwyd yn well i bob un ohonom.
O ganlyniad i'r ymdrechion hyn, rydym wedi distyllu set o egwyddorion y credwn eu bod yn hanfodol ar gyfer y Rhyngrwyd i barhau i gynnig budd i'r cyhoedd yn ogystal ag agweddau masnachol ar fywyd. Rydym yn gosod allan yr egwyddorion hyn isod.
Y nodau ar gyfer y Maniffesto yw i:
- mynegi gweledigaeth ar gyfer y rhyngrwyd y mae cyfranogwyr Mozilla am i Mozilla Foundation ei dilyn;
- siarad â phobl os oes ganddynt gefndir technegol neu beidio;
- gwneud cyfranwyr Mozilla yn falch o'r hyn rydym yn ei wneud a'n hannog ni i barhau; a
- darparu fframwaith i bobl eraill hybu y weledigaeth hon o'r Rhyngrwyd.
Daw'r egwyddorion hyn ddim yn fyw ar eu pen eu hunain. Mae angen i bobl wneud y rhyngrwyd yn agored ac yn gyfranogol - pobl yn gweithredu fel unigolion, yn gweithio gyda'i gilydd mewn grwpiau, ac yn arwain eraill. Mae Mozilla Foundation wedi ymrwymo i hyrwyddo'r egwyddorion sydd i'w gweld ym Maniffesto Mozilla. Rydym yn gwahodd eraill i ymuno â ni a gwneud y rhyngrwyd yn lle gwell fyth i bawb.
Egwyddorion
-
Mae'r rhyngrwyd yn rhan annatod o fywyd modern—yn elfen allweddol mewn addysg, cyfathrebu, cydweithredu, busnes, adloniant a chymdeithas yn gyffredinol.
-
Mae'r rhyngrwyd yn adnodd cyhoeddus byd-eang y mae'n rhaid iddo aros yn agored a hygyrch.
-
Rhaid i'r rhyngrwyd gyfoethogi bywydau unigolion.
-
Mae diogelwch a phreifatrwydd unigolion ar y rhyngrwyd yn fater sylfaenol ac nid oes modd eu trin fel mater dewisol.
-
Rhaid i unigolion gael y gallu i lunio'r rhyngrwyd a'u profiadau arno.
-
Mae effeithiolrwydd y Rhyngrwyd fel adnodd cyhoeddus yn dibynnu ar y gallu i ryngweithredu (protocolau, fformatau data, cynnwys), arloesi a chyfranogiad datganoledig ledled y byd.
-
Mae meddalwedd cod agored, rhydd ac am ddim yn hyrwyddo datblygiad y Rhyngrwyd fel adnodd cyhoeddus.
-
Mae prosesau tryloyw cymunedol yn hyrwyddo cyfranogiad, atebolrwydd, ac ymddiriedaeth.
-
Mae cyfranogiad masnachol yn natblygiad y rhyngrwyd yn dod â llawer o fuddion; mae cael cydbwysedd rhwng elw masnachol a budd cyhoeddus yn hanfodol.
-
Mae cynyddu agweddau budd cyhoeddus y Rhyngrwyd yn nod pwysig, teilwng o'n hamser, sylw ac ymrwymiad.
Addewid ar Gyfer Rhyngrwyd Iach
Rhyngrwyd byd-eang, agored yw'r adnodd mwyaf pwerus o gyfathrebu a chydweithredu rydym wedi ei weld erioed. Mae'n ymgorffori rhai o'n gobeithion dyfnaf ar gyfer cynnydd dynol. Mae'n galluogi cyfleoedd newydd ar gyfer dysgu, adeiladu ymdeimlad o ddynoliaeth gyffredin, a datrys y problemau dybryd sy'n wynebu pobl ym mhobman.
Dros y degawd diwethaf, rydym wedi gweld yr addewid hwn yn cael ei wireddu mewn llawer o ffyrdd. Rydym hefyd wedi gweld grym y rhyngrwyd yn cael ei ddefnyddio i chwyddo rhwygiadau, ysgogi trais, hybu atgasedd, a cham drin ffaith a realiti yn fwriadol. Rydym wedi dysgu y dylwn nodi'n fwy penodol at ein dyheadau ar gyfer y profiad dynol o'r rhyngrwyd. Rydym yn gwneud hynny nawr.
Ein Hymrwymiadau
-
Rydym yn ymrwymedig i ryngrwyd sy'n cynnwys holl bobloedd y byd — lle nad yw nodweddion demograffig person yn pennu eu mynediad ar-lein, eu cyfleoedd nag ansawdd eu profiad.
-
Rydym yn ymroddedig i ryngrwyd sy'n hybu trafodaethau dinesig, urddas pobl a mynegiant unigolion.
-
Rydym yn ymroddedig i ryngrwyd sy'n dyrchafu meddwl beirniadol, ymresymu rhesymedig, gwybodaeth wedi ei rannu a ffeithiau dilys.
-
Rydym yn ymroddedig i rhyngrwyd sy'n hyrwyddo cydweithio rhwng cymunedau amrywiol yn gweithio gyda'i gilydd er lles cyffredinol.
Addewid Mozilla
Ar draws Project Mozilla a phob sefydliad yn y teulu Mozilla, rydym yn addo cefnogi Maniffesto Mozilla yn ei weithgareddau. Yn benodol, byddwn yn:
- adeiladu a galluogi technolegau a chymunedau cod agored sy'n cefnogi egwyddorion y Maniffesto;
- adeiladu a chyflwyno cynnyrch gwych i ddefnyddwyr sy'n cefnogi egwyddorion y Maniffesto;
- ddefnyddio asedau Mozilla (eiddo deallusol megis hawlfraint a nodau masnach, seilwaith, cronfeydd, ac enw da) i gadw'r Rhyngrwyd yn llwyfan agored;
- hyrwyddo modelau ar gyfer creu gwerth economaidd er budd y cyhoedd, a
- hyrwyddo egwyddorion Maniffesto Mozilla mewn trafodaethau cyhoeddus ac o fewn diwydiant y Rhyngrwyd.
Rydym Eich Angen Chi Symud y Maniffesto yn ei Flaen
Bydd rhyngrwyd gyda'r rhinweddau hyn ddim yn dod yn fyw ar ei ben ei hun. Rhaid i bobl a sefydliadau ymgorffori'r dyheadau hyn i mewn i dechnoleg rhyngrwyd ac i'r profiad dynol gyda'r rhyngrwyd. Mae Maniffesto ac Adendwm Mozilla yn cynrychioli ymrwymiad Mozilla i hyrwyddo'r dyheadau hyn. Mae Mozilla yn gweithio gyda phobl a sefydliadau ym mhobman sydd am wneud y rhyngrwyd yn lle gwell fyth i bawb.
Os ydych chi'n rhannu'r nod hwn, rhowch wybod i ni sut y gallwn ni helpu.
- Rydym yn creu meddalwedd cod agored y gallwch adeiladu arno.
- Rydym yn ariannu cymrodyr a phrojectau cynnar gyda'r nod o greu dyfodol gwell ar-lein.
- Rydym yn adeiladu offer AI cod agored sy'n rhoi dewis i ddatblygwyr — ac yn eu helpu i arbed arian.
- Rydym yn buddsoddi mewn cwmnïau cychwyn technoleg cyfrifol.
- Rydym yn rhedeg cymuned fyd-eang ar gyfer cyfnewid data teg.
- Rydym yn cynnal cynulliad byd-eang blynyddol ar gyfer pobl sy'n adeiladu unrhyw beth a phopeth i hyrwyddo'r Maniffesto.
Ac, wrth gwrs, rydym ni'n cynhyrchu Firefox a Thunderbird). Nod hyn oll yw helpu pobl i wneud y rhyngrwyd yn lle iach.